
Y DIWEDDARAF AM Y CORONAFEIRWS: CAU’R GANOLFAN DROS DRO
Rydym yn cynnal sesiynau ar-lein ar gyfer llawer o’n prosiectau, gwelwch ein tudalen 'Be sy Mlaen?' i gael rhagor o wybodaeth.
Hefyd, gallwch weld esiamplau o’r pethau a wnawn ni ar dudalen ‘Fideos’.
I gadw at ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth am Covid-19, mae Canolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE ar gau dros dro.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan ac ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd y sefyllfa’n newid, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd eto cyn hir.
Arhoswch adref, cadwch yn ddiogel.
Llawer o gariad, Tîm TAPE x

Rhoi’r cyfleoedd gorau i bobl drwy’r celfyddydau a’r cyfryngau creadigol.
Y pethau a wnawn
Yma yn TAPE, creadigedd yw ein byd. Credwn fod creadigedd yn gallu ysbrydoli a gweddnewid cymunedau.
Rydym yn cynnig amrywiaeth mawr o gyfleoedd creadigol i grwpiau ac unigolion mewn mannau diogel, cynhwysol a chefnogol.
Mae TAPE yn elusen sy’n agored i bawb. Mae ein tîm a’n hadnoddau’n cefnogi pawb i gael profiadau ymarferol a chyfleoedd mewn meysydd fel gwneud ffilmiau, cynhyrchu sain, cerddoriaeth, ffotograffeg, realiti rhithwir, dylunio, ysgrifennu creadigol, podlediadau a llawer mwy.
Mae ein hamserlen yn cynnwys sesiynau gweithdy wythnosol fel Clwb Ieuenctid Backstage, yr Ystafell Awduron, Ghostbuskers a’r Clwb Animeiddio, yn ogystal â digwyddiadau arbennig, sgrinio mewn sinema, prosiectau pwrpasol, hyfforddiant a llawer iawn mwy. Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd yng Nghanolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE yn Hen Golwyn, ac fel prosiectau allgymorth drwy Ogledd Cymru gyfan.
Mae TAPE yn cefnogi dysgu achrededig ac mae’n Ganolfan Gymeradwy i Agored.
I weld esiamplau o rai o’r pethau y mae TAPE wedi eu darparu, ewch i’r tudalennau ‘Amdanom ni’ ac ‘Fideos / Lluniau’.

Canolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE
Mae ein Canolfan Celfyddydau Cymunedol ym Mharc Min y Don yn Hen Golwyn. Mae’n ganolfan hygyrch a chynhwysol lle mae llawer o’n gweithgareddau’n digwydd, gan gynnwys nifer o’n gweithdai wythnosol.
Mae ffocws y ganolfan ar hygyrchedd ac ar gynnig amrywiaeth mawr o adnoddau creadigol, ac mae hi’n cynnig lle proffesiynol a chefnogol ar gyfer perfformiadau, cynyrchiadau cyfryngau, recordiadau sain, sgrinio sinema, arddangosfeydd, cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, partïon a mwy.
Hurio ystafell: ar gael o £10 yr awr
Stiwdio Recordio: £30 yr awr neu £200 y dydd gyda pheiriannydd

STIWDIO RECORDIO

SINEMA GYMUNEDOL

YSTAFELLOEDD CYFRYNGAU CREADIGOL

YSTAFELLOEDD CYNADLEDDAU A DIGWYDDIADAU

LLE ARDDANGOS

NEUADD

LLWYFAN

LLE YMARFER
NEWYDDION A DIWEDDARIADAU
Be sy Mlaen... Ar-lein
Gwledd greadigol drwy gydol yr wythnos.
Gallwch ymuno â band, creu eich animeiddiad eich hun, bod yn greadigol, archwilio’r dreftadaeth leol, dod â’r sinema i’ch cartref. Mae rhywbeth bach i bawb yn ein sesiynau wythnosol.
Cliciwch ar y llun i fynd i’n tudalen 'Be sy Mlaen' i gael rhagor o wybodaeth.
Byddwn yn cyhoeddi llawer mwy o sesiynau dros yr wythnosau nesaf, felly dewch yn ôl i edrych bob hyn a hyn.
Approaching Shadows yn Dod Cyn Hir!
Mae ail ffilm nodwedd TAPE ar ei ffordd!!
Cafodd hon ei ffilmio ledled Gogledd Cymru drwy gydol 2019, ac mae hi wedi cyrraedd y cam ôl-gynhyrchu erbyn hyn.
Diolch yn enfawr i bawb sydd wedi gweithio ar y cynhyrchiad a’i gefnogi hyd yma.
Cliciwch ar y llun i wylio’r rhagflas.
Rydym yn edrych ymlaen at gyhoeddi dyddiad rhyddhau yn fuan iawn.
HYSBYSIAD AM BRITISH WINTERS
Ffrydio AM DDIM hyd 31 Mai 2020.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y gallwch wylio ffilm nodwedd gyntaf TAPE yn RHAD AC AM DDIM ar-lein ar hyn o bryd drwy Vimeo On Demand.
Cliciwch ar y llun i gael eich cyfeirio at Vimeo.
(Nodwch os gwelwch yn dda: bydd angen i chi fewngofnodi i Vimeo i dderbyn y disgownt.)
O rentu hon, byddwch hefyd yn cael gweld y rhaglen ddogfen British Winters ‘How a Community Made a Film’, sy’n dangos darnau o ffilm a chyfweliadau gyda’r cast a’r criw.
Yn ogystal â Vimeo, mae’r ffilm ar gael i’w ffrydio a’i phrynu hefyd ar Amazon Video. Cliciwch yma i’w gwylio: https://amzn.to/2T1PERb

Tel: 01492 512109
Charity number: 1151513
TAPE Community Arts Centre, Berthes Rd, Old Colwyn. LL29 9SD
© TAPE Community Music and Film.










